Skip to main content

Select Language:

Cytundeb partneriaeth gymunedol diweddaraf Wrecsam yn dechrau gyda Gŵyl Bêl-droed SP Energy Networks

28/03/2025

Mae SP Energy Networks wedi bod yn dathlu ehangu ei bartneriaeth gymunedol nodedig gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam drwy gynnal ‘Gŵyl Bêl-droed’ gydag 80 o ferched Blwyddyn 3 o bob rhan o Ogledd Cymru. 

Yn ystod diwrnod cyffrous o chwaraeon a gweithgareddau STEM, cafodd y pêl-droedwyr ifanc – o chwe ysgol ranbarthol – gyfle i gwrdd â seren tîm cyntaf dynion Wrecsam, Luke Burton, a chwaraewyr o dîm cyntaf merched Wrecsam, sef Rosie Hughes a Lucy Craven, gyda hyfforddiant arbenigol, gemau 5-bob-ochr, a chyfle hyd yn oed i roi cynnig ar newyddiaduraeth chwaraeon mewn cynhadledd arbennig i’r wasg.

Wrexham launch B 2025

Cafwyd hefyd sesiynau ‘Powerwise’ gyda thîm SP Energy Networks, lle’r oedd cyfle i ddysgu am sut mae’r rhwydwaith trydan yn gweithredu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf am yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa STEM sydd ar gael o fewn y diwydiant ynni.

Bydd y bartneriaeth rhwng SP Energy Networks a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn golygu bod gweithredwr y rhwydwaith yn dod yn noddwr swyddogol ar gyfer yr holl dimau academi ieuenctid a'r timau para, yn ogystal â bod yn Bartner Cymunedol swyddogol y clwb. 

Am y tro cyntaf erioed, mae’r bartneriaeth yn cynnwys Rhaglenni Datblygu Pêl-droed i Fenywod ac Arweinwyr Ifanc, gyda’r nod o fynd i’r afael â’r lefel anghymesur o fenywod ym myd hyfforddiant yng Ngogledd Cymru. Bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau cymdeithasol a’r rhwystrau o ran hyder sy’n atal menywod a merched rhag cymryd rhan mewn pêl-droed. 

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnal sesiynau pêl-droed am ddim i ferched mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Wrecsam, a bydd gweithgareddau diwrnod gêm yn ystod gemau cartref menywod Wrecsam yn annog merched ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed ehangach. 

Dywedodd Liam O’Sullivan, Cyfarwyddwr Trwydded SP Manweb yn SP Energy Networks: “Am ffordd o lansio’r bartneriaeth newydd rhwng SP Energy Networks a Chlwb Pêl-droed Wrecsam gyda’r Ŵyl Bêl-droed wych yma! I’r ddau sefydliad, mae ein cymunedau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud ac mae gweld 80 o ferched o ysgolion lleol yn mentro ar y cae, ac yn cael cyfle i gwrdd â’u harwyr o'r byd chwaraeon, a chlywed gan ein tîm ysbrydoledig am y cyfleoedd mae ein diwydiant yn eu cynnig, yn ymgorffori’r bartneriaeth honno. 

Wrexham launch 2025

“Mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd, chwalu rhwystrau, a chael effaith gadarnhaol a pharhaus. Dyna pam rwyf mor falch y bydd ein partneriaeth newydd a gwell yn cefnogi mwy o fenywod a merched ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru i chwarae pêl-droed ac elwa o raglenni datblygu ac arwain y clwb. Mae hefyd yn wych gweld ein partneriaeth yn cael ei hymestyn i holl dimau Para’r clwb, sy’n sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd fel cymuned gefnogol a chynhwysol. 

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam i uno fel grym er lles a newid, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ym maes pêl-droed a’r byd ehangach, gan sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau dyfodol gwell, yn gynt.” 

Dywedodd Jamie Edwards yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam: “Mae ein partneriaeth gydag SP Energy Networks yn bwysig iawn ac yn ein gwreiddio yng nghalon y gymuned leol. Mae ehangu ei gefnogaeth yn gam pwysig arall mewn cyfnod cyffrous iawn i bêl-droed menywod. 

“Wrth i’n clwb a gêm menywod yn gyffredinol barhau i dyfu, mae noddwr angerddol ac ymroddedig fel SP Energy Networks yn hanfodol. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r tîm ac y bydd y bartneriaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.” 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i spenergynetworks.co.uk

Hi! I'm the SP Energy Networks System Agent, can I help you?